Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
23 Ionawr 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5420
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1 -3 a 5 – 8. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd y 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.07
Gwnaeth David Rowlands ddatganiad am coffáu’r 140 o flynyddoedd ers Brwydr Rorke’s Drift.
Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad am Diwrnod Cofio'r Holocost 2019 (27 Ionawr 2019).
Dechreuodd yr eitem am 15.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6940 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Darren Millar AC gyflwyno Bil i roi effaith i'r wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn y Memorandwm Esboniadol a gyhoeddwyd ar 14 Rhagfyr 2018 o dan Reol Sefydlog 26.91A.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
21 |
2 |
27 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6919 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cyn-weithwyr Allied Steel and Wire dal heb gael gwerth llawn eu pensiynau, er gwaethaf cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU a bron 14 mlynedd ar ôl newid yng nghyfraith y DU.
2. Yn nodi o dan cytundeb iawndal a gytunwyd yn 2007 gyda Llywodraeth flaenorol y DU, addawyd yr un driniaeth i weithwyr â gweithwyr a deiliaid cynllun pensiwn o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol.
3. Yn nodi yn sgil newidiadau yn y gyfraith ers 2004, o dan y gronfa diogelu pensiynau a'r cynllun cymorth ariannol fod gan weithwyr yr hawl i gael eu talu hyd at 90 y cant o werth eu cyfraniad pensiwn. Fodd bynnag, nid yw cyfraniadau a dalwyd cyn 1997 wedi'u diogelu rhag chwyddiant.
4. Yn gresynu at y caledi ariannol y mae hyn wedi'i achosi i gyn-weithwyr ASW yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i anrhydeddu ysbryd yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth flaenorol y DU i weithwyr ASW yng Nghymru.
Cefnogwyd
gan:
Andrew
RT Davies (Canol De Cymru)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Leanne
Wood (Rhondda)
David
Rees (Aberavan)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.35
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6921 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol denu pobl, busnesau a buddsoddiad i Gymru fel modd o dyfu refeniw treth yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i beidio â chodi Cyfraddau Treth Incwm Cymru am weddill y Pumed Cynulliad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
8 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.29
Dechreuodd yr eitem am 17.31
NDM6941 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Manteisio ar ddyddiau glawog.
Sut y gellid gwneud mwy o ddefnydd o law yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.51
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 29 Ionawr 2019